Andrew John, Esgob Bangor
Yn ei neges Nadolig eleni, mae Esgob Bangor yn beio’r obsesiwn gyda’r cyfryngau 24 awr am newid y ffordd y mae pobol yn ystyried beth sy’n bwysig yn y byd.
Mae’r Gwir Barchedig Andrew John yn disgrifio 2016 fel blwyddyn na allai neb fyth fod wedi ei rhagweld… yn enwedig o gofio bod “giamocs Ed Balls” ar raglen realaeth Strictly Come Dancing” yn cael mwy o sylw am “digwyddiadau arloesol, dylanwadol”.
Mae’n tynnu sylw at lwyddiant Donald Trump yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, ac at ganlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd fel pethau cwbwl annisgwyl.
“Maen nhw’n dweud bod bywyd yn amhosib i’w ragweld” meddai Andrew John, “wel, gellir dweud heb flewyn ar dafod na welwyd y gosodiad hwnnw’n agosach at y gwir yn ein hoes ni nag y bu eleni.
“Ond, yn yr un ffordd, peidiwch â synnu os y daw cariad Duw yn y man a’r lle mwyaf rhyfedd ac od… mae Duw bob amser yn gwneud yr annisgwyl.”