Mae mil o unigolion wedi gorfod aros dros chwe mis am eu hapwyntiad cyntaf gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed yng Nghymru yn 2016, yn ôl yr elusen NSPCC.

Cafodd 18,000 o unigolion eu cyfeirio at y gwasanaeth flwyddyn yma a  dylai bod unigolion yn derbyn asesiadau o fewn 28 diwrnod.

Bwrdd Iechyd Hywel Dda oedd yr unig fwrdd Iechyd oedd heb weld unrhyw un yn aros dros Chwe mis am driniaeth.

Gwir angen 

“Mae’r ffigurau yma yn dangos gwir faint y broblem o oediadau o ran gwasanaethau meddyliol i blant” meddai Des Mannion, Pennaeth NSPCC Cymru wrth golwg360.

“Rydym yn gwybod bod naw allan o 10 o blant caiff eu cam-drin pan oedden nhw’n ifancach yn fwy tebygol o ddatblygu problem feddyliol erbyn iddynt gyrraedd 18, ac rydym yn pryderu nad ydynt yn derbyn y cymorth sydd angen i wella eu bywydau.

“Rhaid i ni edrych manylder ar yr holl wasanaethau therapiwtig sydd ar gael i blant Cymru a sicrhau bod pob lefel posib o gymorth ar gael yn gyflym.”