Y dyn arfog ar ol iddo saethu llysgennad Rwsia Andrei Karlov mewn oriel gelf yn Ankara, Twrci Llun: (AP/Burhan Ozbilici)
Mae llysgennad Rwsia yn Nhwrci wedi marw ar ôl cael ei saethu gan ddyn arfog yn Ankara, meddai gweinidog tramor Moscow.

Roedd Andrei Karlov yn rhoi araith mewn oriel gelf yn y brifddinas pan gafodd ei saethu gan ddyn arfog yn gweiddi “Allahu Akbar”. Fe daniodd y dyn arfog wyth o ergydion, meddai ffotograffydd AP a oedd yn y gynulleidfa.

Roedd yr ymosodwr hefyd wedi gweiddi geiriau mewn Rwsieg.

Yn ôl adroddiadau cafodd y dyn arfog ei saethu’n farw gan heddlu Twrci. Cafodd tri o bobl eraill hefyd eu hanafu yn yr ymosodiad meddai’r sianel newyddion NTV.