Georgina Symonds (llun: Heddlu Gwent/PA)
Mae’r rheithgor yn achos dyn busnes a oedd wedi tagu ei gariad i farwolaeth, wedi cael eu hanfon adref ar ôl bod yn ystyried a yw’n euog o lofruddiaeth am yr ail ddiwrnod.
Roedd Peter Morgan, 54, wedi lladd Georgina Symonds, 25, yn ei byngalo yng Nghasnewydd.
Roedd yn ei thalu i fod yn gymar personol iddo ac wedi clywed am ei chynlluniau i’w flacmelio, ei adael a gweithio i ddynion eraill.
Fe wnaeth y tad i ddwy ferch dalu Georgina Symonds hyd at £10,000 y mis a gadael iddi fyw heb rent mewn tŷ gwerth £300,000.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod gan Georgina Symonds gyfres o luniau preifat o Peter Morgan, dyn sydd werth £20 miliwn, ac roedd wedi bygwth eu dangos i’w wraig a’u merched.
Mae’r dyn busnes o Lanelen, Y Fenni, yn cyfaddef iddo ladd Georgina Symonds ond yn gwadu llofruddiaeth ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll a’i fod wedi colli rheolaeth.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Garnham wrth y rheithgor ddydd Gwener: “Dan yr amgylchiadau penodol hyn, dim ond dau ddyfarniad sydd ar gael i chi – euog o lofruddiaeth neu ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad.
“Mae llawer o dystiolaeth yn yr achos hwn a byddwch am ei hystyried yn ofalus. Does dim pwysau amser arnoch o gwbl.”
Cafodd un aelod o’r rheithgor eu rhyddhau o’u dyletswyddau ddydd Llun ar ôl i’r barnwr glywed ei bod wedi ei tharo’n wael ddydd Gwener ac nad oedd wedi gwella.
Fe fydd yr 11 aelod arall o’r rheithgor yn parhau i ystyried eu dyfarniad ddydd Mawrth.