Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Môn wedi cymeradwyo argymhelliad i gynnal ymgynghoriad swyddogol ynglŷn ag adrefnu ysgolion cynradd yn y sir.
Fel rhan o’r ymgynghoriad, mae dau opsiwn yn cael eu hystyried ar gyfer ysgolion Corn Hir, Bodffordd, Esceifiog, Talwrn, Henblas a’r Graig, ac mae posibilrwydd y gallai tair ysgol gau.
Mae’r cyngor eisoes wedi ymgynghori â rhieni, llywodraethwyr a staff y chwe ysgol, ynghyd â chynghorwyr lleol a Llywodraeth Cymru, ond fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn awr.
Mae’r opsiynau yn cynnwys adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd, ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, ac adnewyddu Ysgol Henblas.
Mae’r ddau opsiwn yn awgrymu cau Ysgol Talwrn ac mae Ysgol Esceifiog yn wynebu naill a’i adnewyddiad o’r adeilad presennol neu adleoliad i adeilad newydd.