Christine Lagarde Llun: PA
Mae llys arbennig yn Ffrainc wedi dyfarnu bod pennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), Christine Lagarde, yn euog o esgeulustod troseddol.

Serch hynny mae’r llys wedi penderfynu na ddylai hi gael ei chosbi na chael cofnod troseddol.

Mae Llys Cyfiawnder y Weriniaeth wedi dyfarnu bod esgeulustod Christine Lagarde, tra’n gwasanaethau fel gweinidog cyllid, wedi caniatáu i bobl eraill gamddefnyddio arian.

Roedd Christine Lagarde wedi mynnu ei bod yn ddieuog.

Mae’r achos yn ymwneud a chytundeb cyflafareddu gwerth £337 miliwn a gafodd ei roi i’r dyn busnes Bernard Tapie yn 2008 yn sgil gwerthiant cwmni Adidas yn y 1990au. Roedd yr achos wedi ennyn beirniadaeth lem yn Ffrainc.

Ers hynny, mae llysoedd sifil wedi gwyrdroi’r penderfyniad i dalu’r arian i Bernard Tapie, gan ddweud bod y cytundeb a’r broses gyflafareddu yn dwyllodrus, gan ei orchymyn i dalu’r arian yn ôl.

Dywedodd yr IMF y byddai’r bwrdd gweithredol yn cwrdd i “ystyried y datblygiadau diweddaraf” yn dilyn y dyfarniad ddydd Llun.