Roedd pryderon am iechyd Robert Mugabe y llynedd, ond mae e'n awyddus i barhau yn ei swydd (Llun: PA)
Mae plaid Zanu-PF wedi cymeradwyo enwebiad Robert Mugabe ar gyfer etholiadau arlywyddol 2018 yn Zimbabwe.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yng nghynhadledd flynyddol yn Masvingo.
Roedd adain ieuenctid y blaid wedi cynnig y dylai’r Arlywydd allu bod mewn grym am weddill ei oes.
Ond mewn araith ddydd Gwener, fe wnaeth Robert Mugabe gyfaddef fod rhai pobol o fewn ei blaid am ei weld yn ymddiswyddo.
Fe fu mewn grym ers 1980.
Ond fe fu cryn bwyso arno wrth i’r economi grebachu dros y blynyddoedd diwethaf.