Maes awyr Caerdydd (Llun: CC2.0/Mark Richardson)
Mae trafodaethau ar y gweill i geisio atal streic 48 awr gan staff mewn 18 o feysydd awyr dros gyfnod y Nadolig.
Fe fydd Acas yn arwain y trafodaethau’r wythnos nesaf rhwng undeb Unite a chwmni Swissport.
Mae disgwyl i fwy na 1,500 o staff streicio ar Ragfyr 23 a 24 tros gyflogau, gan effeithio ar feysydd awyr Caerdydd, Aberdeen, Belfast, Birmingham, Bryste, Bournemouth, Doncaster, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Caeredin, Gatwick, Glasgow, Heathrow, Leeds/Bradford, Luton, Manceinion, Newcastle, Southampton a Stansted.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Len McCluskey ei fod yn croesawu’r “datblygiad positif” diweddaraf.
Serch hynny, mae disgwyl i streic gan staff British Airways ddigwydd ar Ddydd Nadolig a Dydd San Steffan, ac mae’r cwmni wedi addo gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod teithwyr yn gallu cyrraedd pen eu taith.
Mae staff caban yn anfodlon eu bod yn derbyn llai na staff eraill y maes awyr.
Yn y cyfamser, mae disgwyl i weithwyr y post a rheilffyrdd streicio dros gyfnod y Nadolig hefyd.