Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi addo diddymu’r tâl ar gyfer claddu plant.

Daw’r penderfyniad yn dilyn ymgyrch gan Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, a gollodd ei mab wyth oed, Martin mewn damwain ffordd yn 1989.

Bu’n rhaid iddi gael benthyciad er mwyn cael ei gladdu.

Mae’r ffi yn amrywio drwy Gymru, ac mae Carolyn Harris wedi galw ar Lywodraeth Prydain i neilltuo £10 miliwn er mwyn sicrhau nad oes rhaid i rieni dalu.

Mae disgwyl i’r newid ddod i rym yn Abertawe ym mis Chwefror, ac mae Carolyn Harris wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Ond mae’n rhybuddio na fydd pob awdurdod lleol yn gallu fforddio diddymu’r ffi.