Mae llythyr wedi’i arwyddo gan y bocsiwr Muhammad Ali at Nelson Mandela wedi cael ei werthu am £7,200 mewn ocsiwn.
Mae’r llythyr, a gafodd ei anfon ar 13 Ebrill 1993, yn mynegi cydymdeimlad wedi marwolaeth Chris Hani, un o arweinwyr gwrth-apartheid De Affrica a gafodd ei lofruddio.
Cafodd y llythyr ei deipio gan weithiwr yng ngwesty Elangeni yn Durban, lle’r oedd Muhammad Ali yn aros ar y pryd.
Yn ôl arwerthwyr Henry Aldridge & Son yn Swydd Wiltshire, Americanwr a brynodd y llythyr.
Cafodd enw Muhammad Ali ei sillafu’n ‘Muhammed’ oherwydd “cyffro nerfus” y cynorthwyydd a deipiodd y llythyr, ac fe gafodd y copi ei lofnodi cyn i’r cynorthwyydd ei gadw, ac anfon copi gyda’r sillafiad cywir at Nelson Mandela.
Roedd gan Nelson Mandela lun ohono fe ei hun gyda Muhammad Ali ar ei ddesg, ynghyd â chopi o gofiant y bocsiwr oedd wedi cael ei lofnodi.