Brwydr y Sbaenwyr fydd hi brynhawn dydd Sadwrn (3 o’r gloch) wrth i Abertawe deithio i Middlesbrough yn yr Uwch Gynghrair mewn gêm fawr i’r ddau glwb yng ngwaelodion y tabl.

Byddai angen buddugoliaeth o bum gôl neu fwy ar yr Elyrch er mwyn eu codi allan o’r tri isaf, ac uwchlaw eu gwrthwynebwyr, y prynhawn yma.

Ond mae diffyg goliau Abertawe’r tymor hwn (20 mewn 16 o gemau, gan ildio 34) yn awgrymu bod tipyn o her o’u blaenau.

Mae gan Middlesbrough 15 o bwyntiau ac maen nhw’n ail ar bymtheg yn y tabl, tra bod gan Abertawe 12 o bwyntiau yn y deunawfed safle.

Gwahaniaeth goliau o -14 sydd gan Abertawe, tra mai -6 sydd gan Middlesbrough.

Fernando Llorente a Borja Baston yn erbyn Alvaro Negredo

Serch y diffyg goliau, mae rheolwr Abertawe, Bob Bradley yn ffyddiog y gall yr ymosodwr o Sbaen, Borja Baston ddechrau tanio, a hynny ar ôl gweld perfformiadau mwy disglair yn ddiweddar gan un arall o ymosodwyr Sbaenaidd y clwb, Fernando Llorente.

Dywedodd Bob Bradley: “Does dim amheuaeth fod y newid byd wedi cymryd ychydig o amser.

“Dw i’n credu bod pawb wedi gweld bod perfformiadau Fernando wedi gwella.

“Mae Borja yn symud ar draws y cae mewn ffyrdd diddorol, ond wrth iddo fe frwydro trwy’r cyfnod hwn, ry’n ni’n parhau i’w annog e.

“Mae ei gyd-chwaraewyr yn gwybod pa mor dda yw e, ac maen nhw’n ei annog e’n fawr hefyd.

“Ry’n ni’n dal o’r farn y gall e ein helpu ni. Rhaid i ni barhau i symud gyda fe i’r cyfeiriad cywir.”

Yn ddiweddar, mae adroddiadau’n cysylltu Borja Baston â throsglwyddiad yn ôl i Sbaen, ond mae’r rheolwr yn hyderus y bydd yn aros yn Stadiwm Liberty am y tro.

“Mae rhan o fis Ionawr yn ddirgel. Fy unig bryder yw y gall pethau newid yn gyflym a pheri syndod.”

Alvaro Negredo

Yn nhîm y gwrthwynebwyr heddiw mae Alvaro Negredo, ac mae Bob Bradley yn cyfaddef fod y Sbaenwr wedi ei ryfeddu yn y gorffennol.

Fe welodd drosto’i hun, tra ei fod yn rheolwr ar dîm cenedlaethol yr Unol Daleithiau, pa mor beryglus all Alvaro Negredo fod wrth i Sbaen eu curo o 4-0 mewn gêm gyfeillgar yn 2011.

Dywedodd Bob Bradley: “Mae e’n ymosodwr da. Mae e’n dwyllodrus ac yn gynt nag ry’ch chi’n meddwl.

“Mae e’n gryf. Dyw e ddim mor gyflawn â rhai ymosodwyr ond mae ganddo fe sgiliau. Ond cyn y gêm honno [yn erbyn Sbaen], pan o’n i wedi ei wylio dipyn, do’n i ddim wedi synhwyro ei fod e mor athletaidd ag yr oedd e. Dw i’n credu ei fod e’n dda.”

Y timau

Mae rhai o chwaraewyr Middlesbrough yn wynebu her i fod yn ffit ar gyfer y gêm, gydag amheuon o hyd am y cefnwr chwith George Friend yn dilyn anaf i’w ben-glin, ac am Gaston Ramirez sydd wedi anafu ei droed ond a fydd yn cael prawf ffitrwydd cyn y gêm.

Mae’r ymosodwr Cristhian Stuani allan ag anaf i’w droed.

Mae’n debygol na fydd amddiffynnwr canol yr Elyrch, Federico Fernandez na’r chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng ar gael ar ôl i’r ddau anafu bysedd eu traed yn ddiweddar.