Dreigiau 22–7 Caerwrangon

Mae gobeithion y Dreigiau yn fyw o hyd yng Nghwpan Her Ewrop wedi iddynt drechu Caerwrnagon ar Rodney Parade nos Wener.

Chwaraeodd yr ymwelwyr dros awr o’r gêm gyda phedwar dyn ar ddeg a manteisiodd y Dreigiau’n llawn gyda buddugoliaeth gymharol gyfforddus.

Dechreuodd Caerwrangon yn dda wrth i Connor Braid drosi ei gais ei hunan yn y dau funud cyntaf.

Ymatebodd y Dreigiau’n dda serch hynny gyda throsiad Angus O’Brien yn unioni’r sgôr wedi cais Tavis Knoyle yn y gornel.

Daeth trobwynt y gêm wedi chwarter awr o chwarae wrth i flaenasgellwr yr ymwelwyr, Sam Betty, gael ei anfon oddi ar y cae gyda cherdyn coch am daflu dwrn.

Ciciodd O’Brien y Dreigiau dri phwynt ar y blaen wedi hynny ond methodd y Cymry â chreu mwy o argraff ar y sgôr-fwrdd cyn hanner amser.

Dechreuodd y Dreigiau fanteisio ar y gwagle ar ôl troi gyda Tyler Morgan yn bylchu i groesi am ail gais ei dîm wedi deg munud.

Ychwanegodd Sam Hobbs y trydydd toc cyn yr awr wedi hyrddiad cryf ac roedd y fuddugoliaeth fwy neu lai yn ddiogel.

Yr unig siom i’r Dreigiau oedd iddynt fethu sgorio pedwerydd cais yn y chwarter olaf i sicrhau pwynt bonws er curo a churo ar y drws.

Bu rhaid iddynt fodloni ar fuddugoliaeth yn unig, ond mae honno’n ddigon i gadw eu gobeithio main o gyrraedd wyth olaf y gystadleuaeth yn fyw. Maent bellach yn drydydd yng ngrŵp 3 gyda dwy gêm yn weddill.

.

Dreigiau

Ceisiau: Tavis Knoyle 8’, Tyler Morgan 51’, Sam Hobbs 58’

Trosiadau: Angus O’Brien 8’, 58’

Cic Gosb: Angus O’Brien 25’

Cerdyn Melyn: Ollie Griffiths 19’

.

Caerwrangon

Cais: Connor Braid 2’

Trosiad: Connor Braid 2’

Cerdyn Coch: Sam Betty 15’