Mae’r Gleision wedi cynnig dêl i’r cefnwr Leigh Halfpenny i’w ddenu nôl i Gymru yn ôl Prif Weithredwr y rhanbarth, Richard Holland.

Gadawodd y chwaraewr 27 blwydd oed y Gleision i chwarae i Toulon yn 2014 a bydd ei gytundeb gyda’r clwb o Ffrainc yn dod i ben yn yr Haf.

Dywedodd ei fod yn” pwyso a mesur ei ddewisiadau” wedi i Toulon guro’r Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ddydd Sul.

Roedd Leigh Halfpenny wedi bod yn chwarae i’r Gleision am chwe blynedd cyn iddo symud i Ffrainc.

Penderfyniad Leigh

“Hoffwn feddwl bydd y ddêl yn digwydd ond cwestiwn i’w ofyn i Leigh a’i bobl yw pa mor debygol mae hi o ddigwydd,” meddai Richard Holland wrth BBC Radio Wales.

“Dw i ddim yn credu gallwn ni nag Undeb Rygbi Cymru wneud llawer mwy. Mae hi fyny i Leigh nawr.”

Mae cytundeb presennol Leigh Halfpenny yn caniatáu iddo chwarae i Gymru. Ond os bydd yn aros yn Ffrainc, dan amodau polisi dethol chwaraewyr hŷn yr Undeb Rygbi, bydd yn rhaid iddo gael ei bigo fel un o’r dewisiadau ‘wild card’ er mwyn chwarae dros ei wlad.