Caerfaddon 38–3 Gleision

Colli fu hanes y Gleision wrth iddynt ymeld â’r Rec i herio Caerfaddon yng Nghwpan Her Ewrop nos Iau.

Roedd gan y tîm cartref saith pwynt o fantais ar yr egwyl ac aethant ymlaen i ennill y gêm yn gyfforddus wedi cerdyn coch i glo’r Gleision, George Earle, yn gynnar yn yr ail hanner.

Ciciodd Steve Shingler dri phwynt i’r Gleision cyn i Ross Batty groesi am gais cyntaf y gêm i Gaerfaddon, yn rhedeg trwy amddiffyn y Cymry yn rhy rhwydd o lawer.

Llwyddodd George Ford gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd, 10-3 y sgôr wrth droi.

Gyda Kirby Myhill yn y gell gosb wedi tacl beryglus fe ychwanegodd Jack Wilson ail gais y tîm cartref yn gynnar yn yr ail hanner wedi pas hir Ford.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Gleision yn fuan wedyn wrth i’r dyfarnwr ail edrych ar ddigwyddiad o’r symudiad a arweiniodd at y cais hwnnw a rhoi cerdyn coch i Earle am gyffwrdd llygaid un o’i wrthwynebwyr mewn sgarmes symudol.

Gyda’r ymwelwyr i lawr i dri dyn ar ddeg am gyfnod fe ddaeth Aled Brew o hyd i ddigon o le i groesi am drydydd cais Caerfaddon.

Roedd pwynt bonws y tîm cartref yn ddiogel chwarter awr o’r diwedd wedi i’r bachwr, Batty, ryng-gipio’r bêl yn ei hanner ei hun a rhedeg fel asgellwr yr holl ffordd at y linell gais!

Roedd digon o amser ar ôl i Elliott Stooke ychwanegu pumed cais yn y munud olaf wrth i’r Saeson ennill yn gyfforddus, 38-3 y sgôr terfynol.

Hon oedd colled gyntaf y Gleision yng ngrŵp 4 ac maent yn aros ar frig y tabl yn gyfartal ar bwyntiau gyda Chaerfaddon gyda dwy gêm yn weddill.

.

Caerfaddon

Ceisiau: Ross Batty 27’, 65’, Jack Wilson 44’, Aled Brew 52’, Elliott Stooke 79’

Trosiadau: George Ford 27’, 44’, 52’, 65’, Tom Homer 79’

Cic Gosb: George Ford 33’

.

Gleision

Cic Gosb: Steve Shingler 22’

Cerdyn Melyn: Kirby Myhill 43’

Cerdyn Coch: George Earle 44’