Jefferson Montero (Carlos RM CCA 2.0)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley wedi dweud ei fod am weld mwy o gysondeb ac amrywiaeth triciau ym mherfformiadau Jefferson Montero.
Dydy’r asgellwr o Ecwador ddim wedi cyrraedd ei botensial llawn eto, meddai, a hynny ar ôl dechrau tymor yr Uwch Gynghrair yn hwyr oherwydd ymrwymiadau rhyngwladol yn Copa America, a chyfres o anafiadau ar ôl dychwelyd i Gymru.
Mae e wedi ennill enw da ymhlith cefnogwyr Abertawe am ei gyflymdra wrth ymosod o’r asgell, ond mae’r rheolwr yn gofidio bod elfen o ddiogi yn ei rediadau.
‘Eisiau mwy’
“R’yn ni i gyd am weld os gallwn ni gael mwy allan o Jeff, ei wneud e’n fwy cyflawn, yn fwy cyson,” meddai Bob Bradley.
“R’yn ni am ei wella fe. Mae’r chwaraewyr eraill yn hoff iawn o Jeff ac yn ei barchu fe. Pan fo’r bois yn siarad am bwy maen nhw’n hoffi chwarae gyda nhw, maen nhw’n crybwyll ei enw fe.
“Mae tipyn o bethau positif ond mae adegau pan mae e eisiau pob pêl wrth ei draed i geisio creu hafoc. Mae e’n dda wrth wneud hynny ond fe fyddai’n fwy anodd amddiffyn yn ei erbyn e pe bai e’n amrywio’i symudiadau a throi’r amddiffynwyr ar eu sodlau.”