Papua Guinea Newydd
Mae daeargryn cryf wedi taro arfordir Papua Guinea Newydd, ac mae rhybudd y gallai tswnami ddilyn.

Roedd y daeargryn 29 milltir i’r dwyrain o Taron yn mesur 7.9 ar raddfa Richter.

Mae Canolfan Rybuddion Tswnami’r Môr Tawel wedi rhybuddio y gallai tswnami gael ei achosi a allai effeithio ar ardaloedd cyfagos.

Mae daeargrynfedydd yn gyffredin yn y wlad.