Mae dyn 77 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd Peugeot yn Abertawe neithiwr.

Roedd yn croesi’r ffordd ger Welcome Lane yng nghanol y ddinas am 10.32pm pan gafodd ei daro.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys, ond fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am dystion i’r digwyddiad, ac mae’r gyrrwr 34 oed yn eu cynorthwyo wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.