Aleppo yn Syria Llun: PA
Mae’r ddwy ochr sy’n brwydro yn erbyn ei gilydd yn Syria wedi cadarnhau heddiw bod paratoadau ar y gweill i symud gwrthryfelwyr a miloedd o ddinasyddion o ddinas Aleppo.

Dywedodd swyddog ar ran byddin Syria bod popeth yn barod iddyn nhw adael “unrhyw funud.”

Yn ôl grŵp milwriaethus Hezbollah yn Libanus roedd trafodaethau dros nos wedi cadarnhau telerau’r cadoediad i ganiatáu i wrthryfelwyr a dinasyddion i adael Aleppo.

Roedd y cadoediad wedi methu ddydd Mercher.

Mae milwriaethwyr Shiaidd Hezbollah wedi bod yn brwydro ochr yn ochr â lluoedd yr Arlywydd Bashar Assad yn rhyfel cartref Syria.

Fe fyddai trosglwyddo ardaloedd o Aleppo, sydd ym meddiant gwrthryfelwyr, i reolaeth y llywodraeth yn drobwynt yn y rhyfel cartref, gan olygu bod Assad yn rheoli’r rhan fwyaf o ganolfannau dinesig y wlad.