Nigel Farage, (Llun UKIP)
Mae cyllid UKIP gan y Senedd Ewropeaidd wedi cael ei atal dros dro dros amheuon bod y blaid wedi camwario’r arian.

Yn ôl gwefan newyddion gwleidyddol POLITICO, mae’r Senedd Ewropeaidd wedi atal €90,000 rhag mynd i felin drafod sy’n gysylltiedig â’r blaid.

Mae Swyddfa’r Senedd Ewropeaidd eisoes wedi dyfarnu y bydd yn rhaid i’r grŵp mae Ukip yn perthyn iddo, Alliance for Direct Democracy in Europe (ADDE), ad-dalu 172,655 ewro (£146,696) ac na fydd bellach yn derbyn grant o 248,345 euro (£211,000).

Marine Le Pen dan y lach hefyd

Mae’r Senedd Ewropeaidd hefyd wedi ceisio cael €339,000 o Marine Le Pen, arweinydd Ffrynt Cenedlaethol Ffrainc.

Mae sawl Aelod Seneddol Ewropeaidd, gan gynnwys tad Marine Le Pen, Jean Marie, tri arall o’r Ffrynt Cenedlaethol a chyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage, hefyd yn gorfod talu arian yn ôl i’r Senedd.

Yn ôl yr ADDE, does dim sail i’r honiadau ac mae Nigel Farage wedi dweud bod y Senedd Ewropeaidd yn ymddwyn yn “annheg” tuag at bleidiau gwrth-Ewropeaidd.