Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Bydd arweinwyr 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn ymgynnull ym Mrwsel i drafod Brexit heddiw.
Ond fe fydd y trafodaethau yn dechrau ar ôl i Theresa May adael y cyfarfod, sy’n cynnwys holl arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.
Y trafodaethau yma fydd yn penderfynu sut fydd yr Undeb Ewropeaidd yn paratoi ar gyfer negydu wedi i Theresa May ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr undeb.
Mae rhai ffynonellau ym Mhrydain wedi croesawu’r trafodaethau.
“Mae’n dangos bod Ewrop yn wynebu’r ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael,” meddai ffynhonnell o 10 Downing Street.
Bydd May yn cwrdd â Phrif Weinidogion Latfia a Lithwania yn ystod ei hymweliad a Brwsel, gan olygu y bydd hi wedi trafod ag arweinwyr pob gwlad gan eithrio Awstria a Bwlgaria cyn i’r gynhadledd ddechrau.