Llun: PA
Mae’r cwmni rhyngrwyd Yahoo wedi dweud ei fod yn credu bod hacwyr wedi dwyn manylion personol dros biliwn o ddefnyddwyr mewn ymosodiad seibr yn 2013.

Mae’r cwmni yn credu bod yr ymosodiad yn “wahanol” i’r ymosodiad seibr tua diwedd 2014 a gafodd ei ddatgelu gan Yahoo ym mis Medi eleni, a oedd yn ymwneud a chyfrifon tua 500 miliwn o ddefnyddwyr. Mae’r cwmni’n beio hacwyr gafodd “gefnogaeth gan wladwriaeth” am yr ymosodiad hwnnw.

Cadarnhaodd Yahoo bod manylion yn cynnwys “enwau, cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn, dyddiadau geni a chyfrineiriau” wedi eu dwyn yn dilyn yr ymosodiad ond nid manylion banc.