Llun: BHF
Mae dirywiad brawychus wedi bod mewn gwasanaethau ieuenctid ac mae angen dull radical i fynd i’r afael â’r broblem, yn ôl pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r gostyngiadau sylweddol mewn cyllid dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith ddifrifol ar wasanaethau ieuenctid, meddai’r pwyllgor.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae cyfanswm y gwariant gan awdurdodau lleol ar wasanaethau ieuenctid, gan gynnwys y cyllid drwy’r Grant Cynnal Refeniw, wedi gostwng bron i 25% dros y pedair blynedd diwethaf.

Dywed y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg fod Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn wynebu “her sylweddol” i gyflawni ei ymrwymiad uchelgeisiol o sicrhau darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, cyffredinol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

‘Colli 148 aelod o staff’

Yn ol y Pwyllgor, mae nifer y bobol ifanc sy’n cymryd rhan mewn gwasanaethau ieuenctid sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol yn lleihau o un flwyddyn i’r llall ac mae nifer y staff gwaith ieuenctid wedi dirywio’n sylweddol.

Mae awdurdodau lleol yn nodi eu bod wedi colli 148 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn ar draws y sector statudol yn 2015-16. Mae hyn yn golygu gostyngiad o bron i 20% yn y capasiti staffio mewn dim ond blwyddyn, meddai’r Pwyllgor.

Nid yw’r rhagolwg ar gyfer y sector gwirfoddol yn fwy optimistaidd, gyda Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn adrodd nad yw 30% o’i gyrff cysylltiedig yn disgwyl gallu parhau i fodoli y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol nesaf.

‘Diffyg arweinyddiaeth’

Yn ystod yr ymchwiliad, roedd y rhai fu’n cyfrannu o’r sectorau statudol a gwirfoddol wedi dod i’r casgliad bod:

  • Diffyg arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru;
  • Nad yw’r sector a’r bobl ifanc yn cyfrannu digon at y broses o ddatblygu polisïau; ac
  • Mae angen sicrhau cydweithredu gwell rhwng y sectorau statudol a gwirfoddol i wneud y gorau o adnoddau prin.

‘Camau radical ar frys’

Dywed y Pwyllgor fod angen cymryd “camau radical ar frys” i fynd i’r afael â’r materion hyn ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru newid i fodel cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid, yn cwmpasu’r sectorau ieuenctid statudol a gwirfoddol.

Byddai model cenedlaethol yn galluogi cydweithredu gwell, yn lleihau dyblygu ar draws y sectorau statudol a gwirfoddol, yn codi statws a phroffil gwasanaethau ieuenctid, ac yn annog datblygiad y gweithlu, meddai’r pwyllgor.

‘Her sylweddol’
Dywedodd Lynne Neagle AC. Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: “Mae sicrhau bod yr holl bobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid yn hanfodol i’w cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.

“Mae ein hymchwiliad yn dangos tuedd ar i lawr brawychus yn nifer ac amrywiaeth y gwasanaethau ledled y wlad.

“Rydym yn deall nad yw toriadau mewn cyllid yn gyfyngedig i’r sector gwaith ieuenctid, ond mae dadl bod gwario arian ar ddarparu cymorth cyffredinol i bobl ifanc yn gynnar yn gallu helpu i atal y posibilrwydd o effeithiau dilynol yn ddiweddarach mewn bywyd.

“Credwn fod Llywodraeth Cymru yn wynebu her sylweddol i gyflwyno darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, cyffredinol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.”

‘Beirniadaeth warthus’

Mae AC Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ddarparu “gwasanaeth Cinderella.”

Dywedodd llefarydd addysg, plant, sgiliau a dysgu gydol oes Plaid Cymru, Llyr Gruffydd  bod yr adroddiad yn “feirniadaeth warthus” o ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o wasanaethau.

Dywedodd Llyr Gruffydd AC Plaid Cymru: “Unwaith eto mae’n amlwg eu bod wedi tynnu eu llygad oddi ar y bel gan adael y sector yn wynebu diffyg adnoddau, yn cael ei dan-werthfawrogi ac yn teimlo’n ynysig.

“Dylai buddiannau eglur gwaith ieuenctid i gymdeithas ei wneud yn llawer mwy o flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

“Caniatáu i’r gwasanaethau hyn ddirywio yw’r agwedd tymor byr gwaethaf posib a fydd yn gweld cymdeithas yn talu’n ddrud yn y tymor hir.

“Mae’n bryd i’r Llywodraeth fynd i’r afael a’i chyfrifoldeb i bobl ifanc a byddwn yn annog y gweinidog i dalu sylw i argymhellion yr adroddiad wrtho iddo edrych ar gyflwyno diwygiadau angenrheidiol i’r hyn sy’n amlwg wedi bod yn wasanaeth Cinderella am lawer rhy hir.”