Mae cofnodion meteorolegwyr yn dangos bod Sydney wedi wynebu ei ail noson gynhesa’ erioed.

Fore Mercher roedd tymheredd y ddinas ar ei isaf yn 27.1 gradd Celsius Fel arfer, mae’r tymheredd ar gyfartaledd yn 25.2 Celsius ar ei ucha’.

Mae’r record am y noson gynhesa’ yn Rhagfyr yn y ddinas hefyd wedi’i thorri, record barodd am 148 mlynedd.

Yn ôl y rhai sy’n darogan y tywydd yn Biwro Meteoroleg Awstralia , diffyg awel o’r môr oedd yn gyfrifol am y gwres anarferol.

Bu dinasyddion y ddinas yn heidio i draethau, afonydd a phyllau nofio er mwyn dianc rhag y gwres.