Barry Bennell (Llun: Wikipedia)
Mae’r cyn-hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl i’w achos gael ei drosglwyddo i Lys y Goron.

Ymddangosodd gerbron ynadon yn Sir Gaer trwy gyswllt fideo y bore yma.

Mae wedi’i gyhuddo o bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen; dau gyhuddiad o annog bachgen i gyflawni gweithred rywiol anweddus tu hwnt; ac un cyhuddiad o ymosod gyda’r bwriad o gyflawni sodomiaeth.

Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caer ar Ionawr 11.