Gweddillion yr awyren yn ardal fynyddig La Union, ger Medellin LLun: (AP/Luis Benavides)
Wrth i Frasil gyhoeddi tridiau o alaru cenedlaethol wedi damwain awyren a laddodd 76 o bobl yng Ngholombia, daeth cadarnhad bod un o chwaraewyr tîm pêl-droed Brasil wedi  marw o’i anafiadau yn yr ysbyty ar ôl cael ei achub o weddillion yr awyren.

Bu farw Marcos Danilo Padilha, a oedd yn cael ei adnabod fel Danilo, gôl geidwad tîm Chapecoense, wrth iddo dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, yn ôl llefarydd y tîm Andrei Copetti.

Roedd aelodau o dîm pêl-droed adran gyntaf Brasil ymysg  y teithwyr oedd ar fwrdd yr awyren wnaeth daro’r ddaear mewn ardal fynyddig ger Medellin nos Lun mewn tywydd stormus.

Roedd Danilo ymhlith saith o bobl a gafodd eu hachub o safle’r ddamwain.

Yn ol adroddiadau mae’r rhai a oroesodd y ddamwain yn cynnwys tri chwaraewr arall y tîm pêl-droed, Alan Ruschel, Jakson Follman a Zampier Neto; dau aelod o griw’r awyren, Ximena Suárez ac Erwin Tumiri, a’r newyddiadurwr, Rafael Valmorbida.

Dagrau yn Chapecό

Roedd y tîm o ddinas fechan Chapecό yng nghanol tymor hynod o lwyddiannus wedi iddyn nhw gael eu dyrchafu i adran gyntaf y wlad yn 2014 am y tro cyntaf ers yr 1970au.

Dywedodd Ivan Tozzo i SporTV mai “Chapecoense oedd ffynhonnell hapusrwydd fwyaf y pentref” gan ychwanegu bod “llawer yn y pentref yn galaru.”

Tîm bach, ymateb rhyngwladol

Yn ôl yr arbenigwr pêl-droed Dylan Ebenezer: “Mae’r stori yma wedi mynd o gwmpas y byd ac mae gweld ymateb y clybiau eraill yn neud i chi sylweddoli gymaint ma’ fe di effeithio ar bêl-droed.”

Dywed hefyd bod y digwyddiad yn siŵr o effeithio pawb ym myd pêl-droed o “Messi i rywun sy’n chware’n lleol” yn enwedig o ystyried bod “dylanwad Brasil ar y byd pêl-droed yn enfawr”.

Mae ffigurau ym myd pêl droed hefyd wedi ymateb  i’r ddamwain gan gynnwys chwaraewr tîm pêl-droed Cymru a Real Madrid Gareth Bale wnaeth drydar fod y newyddion yn “hollol ddychrynllyd” a bod ei feddyliau gyda theuluoedd y rhai fu farw.