Tîm pêl-droed Chapecoense o Brasil yn dathlu ar ol ennill gem gyn-derfynol Copa Sudamericana llun: (AP Photo/Andre Penner)
Mae 76 o bobol wedi marw a phump wedi goroesi wedi i awyren ddisgyn i’r ddaear yng Ngholombia.
Roedd yr awyren yn cludo 81 o bobol ac yn eu plith roedd tîm pêl-droed adran gyntaf Brasil, sef Chapecoense.
Roedd disgwyl i’r tîm o ddinas Chapeco yn ne Brasil chwarae yn erbyn Atletico Nacional Medellin ddydd Mercher.
Mewn datganiad byr ar eu tudalen Facebook mae’r clwb wedi dweud “boed i Dduw fod gyda’n hathletwyr, swyddogion, gohebwyr ac ymwelwyr eraill yn teithio gyda’n dirprwyaeth.”
Ac mae fideo cynharach ar y dudalen yn dangos y tîm yn paratoi at y daith awyren nos Lun ym maes awyr ryngwladol Sao Paulo Guarulhos.
Yn ôl yr awdurdodau hedfan roedd criw’r awyren British Aerospace wedi adrodd eu bod yn cael problemau technegol am 10yh wrth iddynt deithio i faes awyr Medellin.
Cafodd timau achub eu hanfon i’r safle ond bu’n rhaid i hofrennydd y llu awyr droi nôl oherwydd y tywydd gwael.
Roedd yr awyren yn cludo 72 o deithwyr a naw aelod o’r criw.