Logo tîm pêl-droed Chapecoense o dde Brasil, Llun: Gwefan Chapecoense
Mae awyren a oedd yn cludo 81 o bobl ar ei bwrdd wedi taro’r ddaear wrth deithio i faes awyr Medellin yng Ngholombia.
Roedd tîm pêl-droed adran gyntaf Brasil ymhlith y rhai oedd ar fwrdd yr awyren.
Dywed yr awdurdodau bod adroddiadau bod o leiaf chwech o bobl wedi goroesi’r ddamwain.
Dywedodd Maer Medellin Federico Gutierrez fod y digwyddiad yn “drasiedi enfawr” wrth iddo deithio i’r safle mynyddig y tu allan i’r ddinas lle digwyddodd y ddamwain toc cyn hanner nos (amser lleol) ddydd Llun.
Mae ambiwlansys a thimau achub wedi cyrraedd y safle, meddai.
Yn ôl yr awdurdodau hedfan roedd criw’r awyren British Aerospace wedi adrodd eu bod yn cael problemau technegol am 10yh.
Cafodd timau achub eu hanfon yn syth i’r safle ond bu’n rhaid i hofrennydd y llu awyr droi nôl oherwydd niwl.
Roedd yr awyren wedi stopio yn Santa Cruz, Bolivia ac yn cludo tîm pêl-droed Chapecoense o dde Brasil i Golombia. Roedd disgwyl i’r tîm chwarae yn erbyn Atletico Nacional o Medellin ddydd Mercher.
Roedd yr awyren yn cludo 72 o deithwyr a naw aelod o’r criw.