Dreigiau 27–19 Caeredin

Y Dreigiau aeth â hi wrth iddynt groesawu Caeredin i Rodney Parade yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Sgoriodd y tîm cartref dri chais mewn hanner cyntaf da ac er nad oeddynt cystal wedi’r egwyl fe wnaethant ddigon i gipio’r fuddugoliaeth.

Daeth cais cyntaf y gêm i Nasw Manu wedi deg munud o chwarae, wythwr yr ymwelwyr yn croesi wedi pas hir cyn chwaraewr y Dreigiau, Jason Tovey. Ychwanegodd Tovey’r trosiad i roi’r Albanwyr saith pwynt ar y blaen.

Caeodd Angus O’Brien y bwlch o fewn dim gyda chic gosb yn dilyn tacl hwyr Magnus Bradbury arno.

Roedd y Dreigiau ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner diolch i gais Carl Meyer, y cefnwr yn hollti trwy ganol amddiffyn Caeredin cyn croesi o dan y psyt.

Dilynodd ail gais yn fuan wedyn wrth i’r prop, Sam Hobbs, dwrio drosodd wedi cyfnod hir o bwyso yn nau ar hugain yr ymwelwyr.

Caeodd Caeredin y bwlch gyda chais dadleuol iawn wrth i ymdrech Chris Dean gael ei chaniatáu gan y dyfanwr er na wnaeth y canolwr gyrraedd y gwyngalch!

Y Dreigiau a gafodd air olaf yr hanner serch hynny wrth i O’Brien groesi am gais da. Dechreuodd y maswr y symudiad yn ei hanner ei hun cyn ei orffen wrth dirio cic Sam Beard. Ychwanegodd y trosiad i roi deuddeg pwynt o fantais i’w dîm wrth droi, 24-12 y sgôr.

Doedd hi ddim cystal gêm wedi’r egwyl a bu rhaid aros tan chwarter awr o’r diwedd am sgôr gyntaf yr hanner. Daeth hwnnw i Gaeredin wrth i’r eilydd wythwr, Bill Mata, godi’r bêl o fôn ryc a hyrddio drosodd. Ychwanegodd Duncan Weir y trosiad ac roedd yr ymwelwyr o fewn pum pwynt.

Daliodd y Dreigiau eu gafael serch hynny ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ddau funud o’r diwedd diolch i gic gosb gan O’Brien.

Mae’r canlyniad yn codi’r Cymry dros Gaeredin i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12.

.

Dreigiau

Ceisiau: Carl Meyer 19’, Sam Hobbs 24’, Angus O’Brien 28’

Trosiadau: Angus O’Brien 20’, 24’, 29’

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 13’, 79’

.

Caeredin

Ceisiau: Nasi Manu 10’, Chris Dean 27’, Bill Mata 65’

Trosiadau: Jason Tovey 11’, Duncan Weir 66’