Mae o leiaf 40 o bobol wedi cael eu lladd a mwy wedi’u claddu o dan rwbel ar ôl i sgaffald ddisgyn mewn gorsaf bŵer yn China.

Roedd tŵr ar y safle ger dinas Fengcheng yn cael ei atgyweirio pan ddigwyddodd y ddamwain am tua 7.30 amser lleol.

Mae tua 200 o swyddogion o’r gwasanaethau achub wedi bod yn tyrchu trwy rwbel gyda’u dwylo er mwyn ceisio achub y rheiny all fod dal yn fyw.

Roedd tua 70 o bobol yn gweithio ar y safle pan ddisgynnodd y sgaffald.

Mae China wedi gweld sawl damwain ddiwydiannol dros y misoedd diwethaf gyda rhai’n dweud mai llygredd a phwysau i hybu’r farchnad mewn economi araf sydd ar fai.