Mae Donald Trump wedi galw am undod cenedlaethol ar drothwy gwyliau Diolchgarwch yn yr Unol Daleithiau.

Yn sgil yr hyn oedd yn ei alw yn “ymgyrch wleidyddol hir a phoenus” dywedodd bod emosiynau a thensiynau yn gryf ar hyn o bryd ac nad oes disgwyl iddyn nhw ddiflannu dros nos.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol, dywedodd: “Rwy’n gweddïo ein bod ni, ar gyfnod y Diolchgarwch, yn cychwyn gwella ein clwyfau a symud ymlaen fel un wlad sy’n rhannu un weledigaeth”.

Mae’r darpar arlywydd wedi teithio i Florida er myn treulio’r gwyliau yno gyda’i deulu.