Mae degau o bobol wedi gorfod gadael eu tai i gysgodi mewn canolfan hamdden yn dilyn tân mawr mewn garej yn Abertyleri y bore ‘ma.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i’r adeilad un llawr ar Heol Bournville tua 03:30 fore Iau.
Nid yw achos y tân yn hysbys ar hyn o bryd.
Bu’n rhaid gwagio 25 o dai cyfagos, a dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân fod rhai yn cael lloches yn y ganolfan hamdden leol.