Mae achos o Gymru ymysg bron i ddau gant o ymchwiliadau i fethiannau posib mewn achosion rhyw hanesyddol yn erbyn plant yng Nghymru a Lloegr, yn ôl adroddiad.
Cafodd yr y Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) gwynion am achosion o fewn 18 llu heddlu, ac yn eu mysg mae un achos gan Heddlu De Cymru.
Mae rhai cwynion yn cynnwys “lefel uchel o lygredd” ac atal tystiolaeth, gyda 15 swyddog yn wynebu camau disgyblu hyd yn hyn yn ôl ffigyrau a ddaeth i law’r BBC.
Roedd y rhan fwyaf o’r 187 o ymchwiliadau eraill yn erbyn swyddogion o Essex (58); De Swydd Efrog (56) a Heddlu’r Met (46).
Dywedodd cadeirydd ymchwiliadau mawr yr IPCC, Julian Blazeby: “Mae’r IPCC wedi ymrwymo i ymchwilio i’r achosion mwyaf sensitif a difrifol o honiadau o fethiannau gan yr heddlu ac mae sawl achos o gamdriniaeth rhyw hanesyddol yn erbyn plant yn disgyn o fewn y categori hwnnw.”