Donald J Trump (llun: AP/David Goldman)
Mae Donald Trump wedi cytuno i dalu $25,000 (£20.1 miliwn) i setlo achosion yn erbyn ‘Prifysgol Trump’, sefydliad na chafodd ei achredu ac nad yw’n bod bellach.

Gallai tua 7,000 o fyfyrwyr fod yn gymwys am ad-daliadau os bydd barnwyr yn cymeradwyo’r cytundeb.

Mae’r rheini sydd wedi dwyn achos yn ei erbyn yn ei gyhuddo o dwyll trwy godi $35,000 y flwyddyn am gofrestru ar gyrsiau a oedd yn addo rhannu cyfrinachau Donald Trump mewn datblygu a phrynu a gwerthu eiddo.

O dan delerau’r cytundeb nid yw Trump yn cydnabod bai wrth dalu’r arian.

Dywed ei gyfreithwyr ei fod “yn fodlon aberthu ei fuddiannau personol” wrth dalu’r arian er mwyn canolbwyntio’n llawn ar fod yr arlywydd.