Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu’r ymosodiadau diweddaraf ar ddinas Aleppo yn Syria.
Fe bleidleisiodd y pwyllgor hawliau dynol o blaid datrysiad newydd ddydd Mawrth, a hynny o 116 fôt i 15.
Mae disgwyl iddo ddod i rym fis nesa’, ac mae’n galw ar lywodraeth Syria i “roi’r gorau ar unwaith” i ymosodiadau ar ei phobol ei hun, gan gynnwys ymosodiadau gan ddefnyddio tactegau brawychol, cyrchoedd awyr, bomiau, arfau a chemegion.
Mae’r datrysiad hefyd yn galw am gadoediad yn Syria sy’n “hanfodol i gyflawni datrysiad gwleidyddol”.