Alexis Jay, arweinydd yr ymchwiliad
Mae cyfreithwraig wedi rhoi’r gorau i’r ymchwiliad annibynnol i achosion o gamdrin plant.

Yn ôl adroddiadau Newsnight y BBC, mae Aileen McColgan wedi mynegi pryderon am arweinydd yr ymchwiliad, sy’n canolbwyntio’n benodol ar yr eglwysi Anglicanaidd a Chatholig.

Eisoes, mae dau aelod arall o’r ymchwiliad wedi rhoi’r gorau iddi, sef Ben Emmerson ac Elizabeth Prochaska.

Alexis Jay yw pedwerydd arweinydd yr ymchwiliad.

Dydy ymadawiad Aileen McColgan ddim wedi cael ei gadarnhau hyd yma.

Angen bod yn dryloyw

Mae cadeirydd Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin, Yvette Cooper wedi dweud ei bod hi’n bwriadu gofyn am dystiolaeth gan Aileen McColgan er mwyn darganfod beth sy’n mynd o’i le gyda’r ymchwiliad.

Dywedodd wrth raglen Today ar Radio 4: “Yr hyn sy’n aneglur yw faint o hyn sy’n ymwneud â phroblemau gwaddol ac yn amlwg, materion yn ymwneud â phersonolaiaeth, ond hefyd a oedd yna faterion strwythurol am y ddwy flynedd diwethaf a’r anawsterau gawson nhw, neu a oedd yna broblemau parhaus ar gyfer y dyfodol.

“Pe bai gyda ni dryloywder yn y pethau aeth o’i le yn y gorffennol yna fe fydd hynny’n ein helpu ni i fod yn hyderus ei bod hi ar y trywydd iawn nawr.”