Mae’r brif ffordd rhwng gogledd a de Cymru wedi cau y bore yma, yn dilyn damwain.
Mae’r A470 wedi’i chau i’r ddau gyfeiriau, ar ol damwain rhwng pump o gerbydau yn Nant Ddu, rhwng y troad am A4059 (Penderyn) a’r troad am yr A4215 yn Libanus.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yno’n dargyfeirio traffig.