Mae dyn 26 oed wedi marw ar ôl cael ei saethu wrth iddo eistedd yn ei gar yn Glasgow.

Roedd e’n gyrru ei gar Audi wrth groesffordd toc cyn canol nos neithiwr.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel achos o lofruddiaeth.