Mae’r elusen iechyd meddwl, Mind, wedi galw am roi’r gorau i ddefnyddio celloedd yr heddlu i gadw carcharorion sy’n sâl.
Maen nhw’n dweud na ddylid defnyddio celloedd fel ‘man diogel’.
Ym mis Chwefror, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref mai o dan amgylchiadau eithriadol yn unig y byddai’r heddlu’n parhau i gloi cleifion â salwch iechyd meddwl mewn celloedd.
Mae’r Mesur Plismona a Throseddau’n cael ei ystyried gan yr Arglwyddi ar hyn o bryd, ac fe fydd yn cynnwys gwahardd cloi plant dan 16 mewn celloedd os ydyn nhw mewn perygl o ladd eu hunain, niweidio’u hunain neu’n dioddef o seicosis.
Ond mae Mind yn galw am ymestyn hyn i oedolion hefyd.
Y ffigyrau
Yn ôl ystadegau, roedd heddluoedd Glannau Mersi a Swydd Hertford ymhlith y rhai nad oedden nhw wedi defnyddio celloedd ar gyfer carcharorion â salwch iechyd meddwl o gwbwl.
Ond roedd rhai heddluoedd wedi’u defnyddio dros 250 o weithiau.
Roedd 2,100 o achosion lle digwyddodd hyn yng Nghymru a Lloegr yn 2015-16, sy’n ostyngiad o bron i 50% o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.
Dywedodd prif weithredwr Mind, Paul Farmer: “Pan ydych chi mewn argyfwng iechyd meddwl, fe allech chi fynd yn rhwystredig, yn ofnus ac wedi’ch aflonyddu’n sylweddol.
“Gallai eich ymddygiad gael ei ystyried i fod yn ymosodol ac yn fygthyiol i bobol eraill, ond mae dirfawr angen cefnogaeth a chydymdeimlad arnoch chi.
“Mae cael eich dal yng nghell yr heddlu a chael eich trin fel troseddwr ond yn gwneud pethau’n waeth.
“Dyma’r amser i wahardd yr arfer niweidiol yma unwaith ac am byth.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod nhw eisoes yn ceisio lleihau nifer yr achosion lle mae celloedd yr heddlu’n cael eu defnyddio o dan y fath amgylchiadau.