Mae siopwyr ar-lein yn China wedi gwario biliynau ar ‘Ddiwrnod y Bobol Sengl’, diwrnod sydd wedi tyfu i fod y prysuraf i fasnachu ar y We.

Dywedodd cwmni mwya’ ar-lein y wlad, Grŵp Alibaba, fod gwerthiant ar ei blatfformau wedi pasio 91.2 biliwn iwan (£10.6 biliwn) yn 15 awr cynta’r digwyddiad.

Mae hynny bedair gwaith yn fwy na gafodd ei wario ar Ddydd Llun Seibir y llynedd yn yr Unol Daleithiau pan gafodd 3 biliwn o ddoleri Americanaidd eu gwario.

Mae’r diwrnod yn cynnwys gostyngiadau mawr ar ddillad, ffonau clyfar, pecynnau teithio a nwyddau eraill.

Dywedodd JD.com, masnachwr ar-lein uniongyrchol mwya’ China, a chystadleuydd mwya’ Alibaba, ei fod wedi anfon rhai nwyddau ar drôns i gwsmeriaid mewn ardaloedd gwledig.

Cafodd Diwrnod y Bobol Sengl ei ddechrau gan fyfyrwyr Tsieineaidd yn y 1990au fel fersiwn o Ddiwrnod San Ffolant i bobol heb gariadon.

Eleni fe wnaeth Alibaba dalu’r actores Scarlett Johansson, y pêl-droediwr David Beckham, y chwaraewr pêl fasged, Kobe Bryant a’r grŵp pop, One Republic, i dynnu sylw at y diwrnod.