Boris Johnson ar y chwith
Mae Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth Prydain wedi galw am roi’r gorau i grochlefain bod Donald Trump wedi ei ethol yn Arlywydd America.

Roedd Boris Johnson wedi dweud bod yr alwad gan Trump i wahardd Mwslemiaid rhag teithio i America yn dangos ei “dwpdra anhygoel” a’i fod yn amlwg “allan o’i ben”.

Ond heddiw mae Boris Johnson yn galw ar bobol Ewrop i roi’r gorau i’r “collective whinge-o-rama” ynghylch ethol Y Donald.

Fe ddywedodd Boris Johnson wrth ohebwyr yn Serbia ei bod yn amser i “bobol ganolbwyntio ar  y cyfleon… ac nid y problemau”.

Mae ethol Donald Trump “yn gyfle gwych i ni ym Mhrydain adeiladu gwell perthynas gydag America sy’n allweddol bwysig i ni yn economaidd” yn ôl Boris Johnson.

Nôl ym mis Mawrth roedd wedi dweud ei fod yn “wirioneddol boeni” am y syniad o Donald Trump yn cael ei ethol i arwain America.