p
Mae llywodraeth Ffrainc wedi cau pedwar mosg a oedd, yn honedig, yn hybu “ideoleg radical”. Dyma’r diweddara’ o ddwsinau o fosgiau sydd wedi cael eu gwahardd ers yr ymosodiadau terfysgol ar ddinas Paris ym mis Tachwedd 2015.
Mae’r ffaith bod yna stad o argyfwng yn Ffrainc yn caniatau i lefydd o addoliad gael eu cau, os ydyn nhw’n llefydd sy’n cael eu hamau o bregethu casineb a hybu trais a gweithredoedd terfysgol.
Fe ddaeth y gorchymyn diweddara’ hwn gan y Gweinidog Materion Cartref, Bernard Cazeneuve, ddydd Mercher. Doedd datganiad ei swyddfa ddim yn enwi’r mosgiau, dim ond eu bod nhw yn nwyrain, gorllewin a gogledd dinas Paris.
“Dan gochl crefydd, fe fu’r llefydd hyn yn cynnal cyfarfodydd oedd â’r bwriad o hybu ideoleg radical,” meddai’r datganiad.