Pobol allan ar y strydoedd i wylio'r rali (Llun: Rali Cymru GB)
Mae Rali Cymru GB Dayinsure y penwythnos diwethaf wedi’i chlodfori fel yr “orau eto” ar ôl i ddegau o filoedd o gefnogwyr heidio i goedwigoedd Cymru i wylio Pencampwriaeth Rali’r Byd (WRC).

Y Ffrancwr, Sebastien Ogier, wnaeth gamu i ris uchaf y podiwm brynhawn dydd Sul yn Llandudno ac fe roedd tyrfa enfawr yn sefyll ar hyd strydoedd dref i gymeradwyo.

Roedd y rasio wedi’i gynnal ar lwybr o fwy na 200 milltir o gymalau coedwig – gyda dyddiad newydd yng nghanol hanner tymor yn cynnig gwell amodau i’r gwylwyr ac yn gwneud Rali Cymru GB Dayinsure yn achlysur teuluol go iawn, yn ol y trefnwyr.

Gan dorri tir newydd, cafodd hanes y rali ei darlledu am y tro cyntaf gan BT Sport – yn gyflawn â hofrennydd byw – gyda Sianel 5, S4C a rhwydweithiau teledu rhanbarthol yng ngogledd Cymru ac yng ngogledd-orllewin Lloegr yn cynhyrchu rhaglenni di-dâl i sicrhau bod hyd yn oed cefnogwyr a oedd yn methu ymuno yn gwybod yn union beth oedd yn digwydd.

“Ni fyddai’n ormodiaeth dweud mai rali eleni oedd y fwyaf a’r orau eto,” meddai Rheolwr-Gyfarwyddwr Rali Cymru GB Dayinsure, Ben Taylor.

“Fe wnaeth y llwybr cystadleuol greu ralïo gwych, fe wnaeth y RallyFest newydd yng Nghastell Cholmondeley ragori ar bob disgwyliad a bu’r ymweliad â Chaer nos Wener yn aruthrol o boblogaidd.

“Mae hi mor bwysig dod â’r gamp at y bobol ac roedd hi’n ardderchog gweld bod holl sêr presennol y WRC yn falch o wneud amser i ymgysylltu â’r gwylwyr a chreu cefnogwyr newydd”.