Mae corff rheoli FIFA wedi cyhoeddi rhestr fer o’r rheiny sydd wedi’u dewis ar gyfer gwobr Rheolwr Tîm Dynion Gorau 2016 – ac mae rheolwr Cymru, Chris Coleman ymlith y deg.
Nawr, fe fydd proses braidd yn gymhleth yn dod i rym, i ddewis yr enillydd erbyn dechrau’r flwyddyn.
Fe fydd 50% o’r bleidlais yn dod gan gapteiniaid a phrif hyfforddwyr y timau rhyngwladol; a’r hanner arall wedi’i seilio ar farn y cyhoedd trwy bleidlais ar-lein, a grwp dethol o tua 200 o gynrychiolwyr o bedwar ban byd.
Fe fydd enwau’r tri sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi ar Ragfyr 2, ac mi fydd enw’r buddugol yn cael ei gyhoeddi mewn cinio Gwobrwyo’r Gwobrwyon FIFA ar Ionawr 9, 2017.
Deg gorau’r byd
- Chris Coleman (Cymru)
- Didier Deschamps (Ffrainc)
- Pep Guardiola (Sbaen/FC Bayern Munich/Manchester City)
- Jürgen Klopp (Yr Almaen/Lerpwl)
- Luis Enrique (Sbaen/FC Barcelona)
- Mauricio Pochettino (Ariannin/Tottenham Hotspur)
- Claudio Ranieri (Yr Eidal/Leicester City)
- Fernando Santos (Portiwgal)
- Diego Simeone (Ariannin/Atlético Madrid)
- Zinédine Zidane (Ffrainc/Real Madrid)