Fe fydd Clwb Rygbi Llanymddyfri’n casglu arian er cof am Eifion Gwynne cyn, yn ystod ac ar ôl eu gêm yn erbyn Pontypridd yn Uwch Gynghrair Cymru nos Wener.
Bu farw’r cyn-chwaraewr 41 oed fis diwetha’ ar ôl cael ei daro gan gar wrth ddychwelyd o angladd ei ffrind ym Malaga ar y Costa del Sol.
Roedd gan y trydanwr wraig a thri o blant.
Roedd Eifion Gwynne yn chwaraewr gyda’r clwb am bedwar tymor rhwng 2003 a 2007, ac fe gafodd ei enwi’n seren y gêm pan enillodd y clwb Gwpan Cymru yn 2007. Cafodd ei ddisgrifio gan y clwb fel “blaenwr ymroddgar oedd yn cario’r bêl heb ofn, er pan oedd e’n bylchu fe ellid maddau i chi am feddwl ei fod yn chwaraewr tri-chwarter”.
Ond yn fwy na dim, mae’n cael ei gofio fel “gŵr bonheddig ar y cae ac oddi arno”.
Fe fydd bwcedi’n mynd o gwmpas y cae cyn, yn ystod ac ar ôl y gêm nos Wener, ac fe fydd ocsiwn yn y clwb ar ddiwedd y gêm.
Dylai unrhyw un a fyddai’n hoffi rhoi eitemau ar gyfer yr ocsiwn gysylltu â Gina Deering drwy e-bost: droversrfc@gmail.com neu drwy ffonio 01550 721110.