Mae gweinidog amddiffyn Rwsia wedi cyhuddo gwrthryfelwyr Syria o fomio ardaloedd o ddinas Aleppo lle mae pobol gyffredin yn byw.

Yn ôl Sergei Shoigu, mae 2,000 o wrthryfelwyr, gyda chefnogaeth dwsinau o danciau a cherbydau arfog, wedi ymosod ar dai, ar ysgolion ac ysbytai yn y ddinas yn Syria.

Mae hefyd yn honni bod pobol gyffredin wedi cael eu rhwystro rhag gadael yr ardaloedd oedd dan ymosodiad, a bod dwsinau wedi marw bryd hynny.

Fe ddechreuodd yr ymosodiadau diweddara’ ar Aleppo ddydd Gwener.