Roger Scully
Mae ffigurau arolwg barn sydd newydd eu cyhoeddi yn dangos fod gan ganran sylweddol o bobol Cymru agweddau negyddol at grwpiau fel pobol hoyw, Moslemiaid ac, yn fwy na neb arall, at ffoaduriaid.

Mae’r ystadegau o Astudiaeth Etholiad Cymru eleni hefyd yn dangos fod yr agweddau negyddol ar eu hucha’ ymhlith cefnogwyr plaid UKIP, gyda mwy na hanner eu cefnogwyr nhw’n teimlo’n negyddol am Foslemiaid, pobol o ddwyrain Ewrop a ffoaduriaid.

Mae mwy na chwarter cefnogwyr Plaid yn dangos rhywfaint o agweddau negyddol at bobol o Loegr, tra bod 12% o gefnogwyr y Ceidwadwyr a 18% o gefnogwyr UKIP yn cydnabod fod ganddyn nhw agweddau negyddol at siaradwyr Cymraeg.

Ysgyr y ffigurau

Ar ochr orau’r arolwg, meddai un o’i drefnwyr, Rogers Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r agweddau negyddol wedi lleihau ers yr arolwg tebyg diwetha’ bum mlynedd yn ôl ac mae mwyafrif yr atebwyr yn teimlo’n bositif at bob un o’r grwpiau pobol.

Od, meddai mai lefel sylweddol o “deimladau negyddol” i’w gweld o hyd at bobol hoyw, lesbiaidd a thraws, at Foslemiaid, pobol o Ddwyrain Ewrop a ffoaduriaid.

“Alla i ddim dychmygu ei body n llawer o hwyl body n aelod o grŵp cymdeithasol y mae chwarter neu hyd yn oed draean o’r gymdeithas yn coleddu barn negyddol amdanoch chi,” meddai.

Roedd 45% o’r ymatebwyr wedi mynegi agweddau negyddol at ffoaduriaid.

Y mwya’ positif – cefnogwyr Llafur

Gyda chefnogwyr y pleidiau, agweddau cefnogwyr y Blaid Lafur oedd fwya’ positif, gyda chefnogwyr Plaid Cymru’n ail ym mhopeth heblaw am fod yn fwy negyddol na neb arall am fewnfudwyr o Loegr ac yn llai negyddol na hawb arall at siaradwyr Cymraeg.

Ar y cyfan, meddai Roger Scully, mae’r gwahaniaethau rhwng y tair prif blaid yn gymharol fach o’i gymharu â’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw a chefnogwyr UKIP.

O’r 10 categori poblogaeth, roedd cefnogwyr UKIP yn fwy negyddol am wyth ohonyn nhw … gyda rhai grwpiau, roedd eu hatebion “bron oddi ar y sgêl” meddai Roger Scully.

Ond roedd y ffigurau i gyd, meddai, yn cadarnhau ei farn bum mlynedd yn ôl – nad yw Cymru’n lle mor oddefgar ag y byddai rhai ohonon ni’n hoffi meddwl y mae hi”.

UKIP a’i rhagfarnau

Dyma sgôr agweddau cefnogwyr UKIP – y canran oedd yn rhoi sgôr negyddol i bob un o’r grwpiau:

Hoyw a Lesbiaidd             30%

Moslemaidd                       61%

Du                                        20%

Gwyn                                   4%

Traws                                  35%

Iddewig                               15%

Siaradwyr Cymraeg          18%

O Loegr                               12%

Dwyrain Ewrop                 58%

Ffoaduriaid                        69%

Gyda Ffoaduriaid, roedd 38% o gefnogwyr UKIP yn mynegi’r agweddau mwya’ negyddol posib.

Y ffigurau’n llawn ar www.cardiff.ac.uk/electionsinwales