Mae Hillary Clinton wedi galw ar yr FBI i ddatgelu manylion llawn eu hymchwiliad i’w defnydd hi o gyfrif e-bost personol.

Mae ei gwrthwynebydd, y Gweriniaethwr Donald Trump, wedi defnyddio’r helynt i’w fantais ei hun, gan godi amheuon am ddibynadwyedd Clinton fel ymgeisydd arlywyddol.

Mewn anerchiad yn Fflorida, galwodd Clinton ar Gyfarwyddwr yr FBI, James Comey i gyflwyno holl ffeithiau’r ymchwiliad.

Mae ei chefnogwyr wedi beirniadu llythyr gan Comey at Gyngres yr Unol Daleithiau gan ddweud bod rhai manylion pwysig ar goll.

Mae Clinton wedi cyhuddo Trump o gamarwain y cyhoedd wrth i’r ymgyrch arlywyddol ddirwyn i ben.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 8 Tachwedd.

Mewn cyngerdd ym Miami, dywedodd Clinton fod Trump yn “creu ofn” ac yn “sarhau carfan ar ôl carfan o Americanwyr”.

Mae’r helynt tros e-byst Clinton wedi para mwy na blwyddyn erbyn hyn.

Mae’r FBI yn ceisio darganfod a oedd Clinton wedi cael mynediad i wybodaeth gyfrinachol cyn-aelod o’r Gyngres oedd yn briod ag un o’i chydweithwyr.

Ond mae cadeirydd ei hymgyrch arlywyddol, John Podesta yn mynnu nad oes “unrhyw dystiolaeth o ddrwgweithredu”.

Yn ôl Comey, mae’r FBI wedi dod o hyd i “e-byst newydd” a’u bod yn ymchwilio i’r rheiny ar hyn o bryd.