Mae’r actor Albanaidd blaenllaw Ewan McGregor wedi cyfaddef fod mater annibyniaeth ei wlad yn destun dryswch yn sgil refferendwm Ewrop.
Roedd McGregor wedi gwrthwynebu annibyniaeth adeg refferendwm yr Alban yn 2014, ond mae bellach yn dweud ei fod o blaid annibyniaeth ar ôl i Brydain ddewis gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC ei fod e wedi ceisio cadw draw o fater annibyniaeth yn 2014 gan nad oedd yn gallu pleidleisio beth bynnag, ac nad yw wedi byw yn yr Alban er pan oedd e’n 17 oed.
“Y gwir amdani oedd nad oeddwn i am i’r Alban fod yn annibynnol yn 2014. Do’n i ddim yn deall sut fyddai’n gweithio.
“Ro’n i’n gofidio y byddai’r Alban yn dioddef ar ei phen ei hun ac ro’n i’n credu yn yr undeb ac ro’n i’n teimlo y bydden ni’n gryfach gyda’n gilydd.
“Yna fe ddigwyddodd Brexit. Nawr dw i wedi drysu’n llwyr.”
Dywedodd McGregor ei fod yn ffilmio ‘Trainspotting 2’ yn yr Alban ar y noson y cafodd canlyniad refferendwm yr Alban ei gyhoeddi.
Roedd wedi bod yn dweud y byddai Prydain yn dewis aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac fe gafodd ei synnu o glywed arweinydd UKIP, Nigel Farage yn datgan buddugoliaeth i’r rheiny oedd o blaid gadael.
“Ro’n i’n meddwl ‘Mae e wedi gwneud camgymeriad ofnadwy, bydd e’n destun embaras oherwydd mae e wedi datgan buddugoliaeth yn rhy gynnar’.
“Ro’n i’n meddwl ei fod e wedi gwneud camgymeriad ond nid felly y bu.
“Y diwrnod canlynol, byddwn i wirioneddol wedi pleidleisio i’r Alban adael. Mi fyddwn i.”