Peter O'Toole yn chwarae cymeriad Lawrence of Arabia mewn ffilm yn 1962
Fe fydd eitemau o eiddo Lawrence of Arabia yn rhan o arddangosfa newydd yn Swydd Nottingham.

Cafodd T.E. Lawrence ei eni yn Nhremadog yn 1888.

Fe fydd gwisgoedd a chist a ddefnyddiodd i gario aur yr Arabiaid yn rhan o’r arddangosfa ‘Shifting Sands’ yn y Ganolfan Rhyfel Cartref yn Newark.

Arweiniodd Lawrence wrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Ottoman yn y Dwyrain Canol yn ystod y Rhyfel Byd Cartref.

Mae’r arddangosfa’n seiliedig ar ddeng mlynedd o ymchwil gan archaeolegwyr.

Dywedodd un o’r archaeolegwyr, Neil Faulkner o Brifysgol Bryste fod Lawrence yn “arwr annhebygol” ond ei fod yn “arweinydd milwrol gwych”.

“Heb ei gymorth, mae’n annhebygol y byddai’r fyddin Arabaidd wedi cael y llwyddiant a gafodd wrth guro’r Ymerodraeth Ottoman.”

Cafodd hanes Lawrence of Arabia ei adrodd mewn ffilm yn 1962, gyda Peter O’Toole yn chwarae’r prif gymeriad.

Bydd yr arddangosfa yn Newark, Swydd Nottingham ar agor tan ddiwedd mis Mawrth 2017.