Car heddlu Efrog Newydd
Cafodd sioe opera yn Efrog Newydd ei chanslo brynhawn dydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod unigolyn yn y gynulleidfa wedi gwasgaru llwch ei ffrind lle’r oedd y gerddorfa’n chwarae.

Cafodd gweddill y perfformiad hwnnw o ‘Guillaume Tell’ gan Rossini a pherfformiad arall eu canslo wedi’r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Efrog Newydd fod nifer o bobol yn y gynulleidfa wedi rhoi gwybod iddyn nhw am fwriad y dyn oedd yn eistedd yn y rhes flaen.

Fe wasgarodd y llwch yn ystod egwyl pan nad oedd y cerddorion yn eistedd yno.

Fe fydd profion yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau mai llwch oedd y sylwedd.

Ond fe ddywedodd yr heddlu nad ydyn nhw’n credu bod unrhyw drosedd wedi cael ei chyflawni.